Dyma ychydig amdanaf i…

 

Gadewch i mi gyflwyno fy hun; Ifan ydw i. Yn wreiddiol o Gwm Tawe, symudais i Fangor yn 2012, syrthio mewn cariad gydag Eryri, ac rwy’ wedi aros yn yr ardal ers hynny. Rwy’n chware’r gitâr a’r ffidl, yn ffan fawr o goffi du a bwyd Eidalaidd. Mae’r rhan fwyaf o fy amser yn cael ei dreulio yn cerdded mynyddoedd Eryri a dringo creigiau, ac rwy’n aelod o fy Nhîm Achub Mynydd lleol.

Fel person creadigol erioed, rwy’n cofio fel plentyn dweud wrth fy Mam-gu fy mod i ishe bod yn artist. Bob pen-blwydd a Nadolig byddaf yn derbyn bob math o baent, llyfrau braslunio a chynfasau wrthi er mwyn tanio fy nychymyg. Mae’r reddf i fod yn greadigol, archwilio syniadau newydd, a gwella fy nghrefft yn fy sbarduno o hyd.

Bob gwyliau teulu, neu bob digwyddiad o bwys byddai fy nhad gyda chamera yn ei law yn dal y momentau prin hynny ar ffilm. Erbyn hyn, rydw i a fy mrawd a chwiorydd yn trysori edrych yn ôl ar yr holl luniau ac oriau o fideo. Mae adegau a fyddai ond wedi bod yn atgofion niwlog heb ymdrech fy nhad i’w cofnodi nawr yn destun atgofion melys i ni rannu gyda’n gilydd. Rwy’ wrth fy modd yn creu’r cofnodion gwerthfawr yna i eraill.

Daeth yn glir bod ffotograffiaeth yn alwedigaeth berffaith i mi, a thestun balchder yw adeiladu busnes ffotograffiaeth fy hun o lawr gwlad a byw bywyd tu ôl i’r lens.

Dyma beth sy’n fy ngyrru i ishe tynnu lluniau bob dydd. Rydw i ishe gallu rhoi albwm syfrdanol i chi, wedi’ lenwi gyda cyflwyniad dogfennol llawn o’ch diwrnod. Byddaf yn rhoi lluniau agos a phersonol o’r holl fanylion rydych chi wedi gweithio yn galed i berffeithio, I lluniau llydan, trawiadol o lleoliad eich breuddwydion.

Mae gennyf lot o falchder dros fy arddull golygu, a mae pob llun rydwyf yn darparu i chi yn cael eu ddewis yn ofalus, a’i olygu gyda llaw un ar y tro.

Cysylltwch

Peidiwch ag oedi i gysylltu os hoffech chi sgwrs anffurfiol am be allai gynnig i chi