Ffotograffydd Proffesiynnol o Gymru

Shwmae, rwy'n ffotograffydd wedi'i leoli ym mynyddoedd hyfryd Eryri yng Ngogledd Cymru. Rwy'n frwdfrydig i'ch helpu ddal eiliadau pwysig ac atgofion hapus. Rwy’ ar gael ar gyfer priodasau, portreadau, digwyddiadau, gwaith corfforaethol, ac yn awyddus i glywed eich syniadau chi. Mae gen i dros 5 mlynedd o brofiad fel ffotograffydd yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.

Rwy’n darparu lluniau mynegiannol o safon uchel y byddwch yn trysori am oes. Rwy'n berson di-hid a chyfeillgar ac rwy’ ar gael i siarad cymaint a sydd ei angen arnoch cyn eich diwrnod mawr i warantu profiad positif.

Cymerwch amser i ymweld â'm gwefan yn iawn a phori trwy fy mhortffolio. Gobeithio wnewch chi hoffi’r hyn sydd i’w weld; byddaf wrth fy modd yn clywed gennych chi os hoffech chi wybod mwy.

Cyfeirnodau

“Tynnodd Ifan luniau ohona i a mhatner a’n babi bach. Roedd o’n lot o hwyl ac roedd natur hamddenol Ifan yn gwneud y profiad yn un braf a di-ffwdan iawn. Rydan ni wrth ein boddau efo’r lluniau naturiol dynnodd o ohonan ni’n tri.”

— Lois R.

“Roedd gweithio hefo Ifan yn bleser ac yn ddi-drafferth. Mae’n ffotograffydd proffesiynnol, sy’n gwneud gwaith gwych ac yn drefnus iawn hefo’i waith golygu. Mae’r lluniau a dynnwyd ganddo yn brawf o’i allu, ac rydym yn edrych ymlaen i gael gweithio hefo Ifan eto’n fuan!”

— Ifan D.

Ydych chi’n hoffi be chi’n gweld?

Gyrrwch neges i mi os hoffech chi wybod mwy am fy ngwasanaethau; mi wnai eich cerdded trwy’r broses cyfan.