Liz a Chris
Gwahoddodd Chris a Liz fi i dynnu llunau o'u priodas ym mis Hydref yn Ynys Môn. Dechreuodd y diwrnod yn nhŷ rhieni Liz ble cefais luniau hyfryd o Liz yn paratoi, y ffrog a manylion bach arall.
Cawsant seremoni bach, hamddenol gyda teulu agos a ffrindiau yn Swyddfa Gofrestrfa Llangefni, cyn mynd tuag at Gwesty Gadlys ar gyfer y dathliadau ar ôl y seremoni! Roeddwn i wrth fy modd â'r lleoliad hwn, wedi'i osod reit ar Arfordir Gogleddol Ynys Môn yn edrych dros erddi trawiadol allan tuag at Fôr Iwerddon.
Rwy'n hapus iawn gyda'r lluniau hyma, maen nhw llawn lliw a chwerthin. Isod mae rhai lluniau o'u diwrnod hyfryd, cymerwch gip olwg arnynt. Os ydych chi'n chwilio am ffotograffydd i ddal eich diwrnod arbennig, hoffwn glywed gennych!