Dyweddiad Gareth a Laura
Gareth yw un o fy ffrindiau hynaf, felly roeddwn i wrth fy modd pan ddywedodd wrthyf am ei gynlluniau i ofyn i’w gariad, Laura i’w briodi, a gofyn imi ddal y foment. Roeddwn braidd yn nerfus i wneud e’n iawn, ond yn gwerthfawrogi bod yn rhan o garreg filltir mor bwysig yn eu bywydau.
Aeth Gareth â Laura i un o'i hoff leoliadau, Ynys Llanddwyn yn Niwbwrch. Gan fy mod i'n nabod y ddau mor dda, a bod Llanddwyn yn ardal mor agored, roedd hi yn dasg aros yn gudd tan y foment iawn. Os oedd Laura yn fy ngweld, roeddwn yn gwybod y byddai’r gêm ar i fyny. Yn ffodus, roedd fy nghuddwisg picnicwr wedi gweithio ac ni chefais fy ngweld, ffiw!
Aeth Gareth i lawr ar un pen-glin, ac yn amlwg dywedodd Laura ie, ac roedd y gweddill yn hawdd. Fe wnes i adael iddyn nhw fwynhau'r foment, a chipio lluniau hyfryd o’r ddau. Roeddent mor gyffrous i rannu'r lluniau â'u ffrindiau a'u teulu, a fi’n gwybod y byddant yn eu trysori am oes.
Os ydych chi'n ystyried dyweddïo, ac eisiau dal y foment fel Gareth a Laura, cysylltwch â mi heddiw.