Tomos, Lois a Brengain

BRENGAIN-5.JPG

Ges i’r pleser o dynnu lluniau o Tomos, Lois a’i merch fach, Brengain.

Roeddent yn awyddus i gael lluniau teuluol hamddenol a hwyl fel anrhegion i Neiniau a Thaid Brengain, Awgrymais ein bod yn mentro tuag at glan Llyn Padarn yn Llanberis. Mae’n le mor brydferth, roeddem yn sicr o gael cyfansoddiadau da.

Mae Brengain yn 5 mis oed nawr ac nid yw hi bellach yn fabi newydd, felly gwnaeth Tomos a Lois yn siwr i gael lluniau ohonni ar y pwynt yma o’i bywyd. Roedd hi yn fabi hyfryd heb greu ffws o gwbl yn ystod o shwt. Rwy’n teimlo’n freintiedig fy mod i wedi cael y cyfle i gymryd y lluniau yma, rwy’n siwr y byddent yn rhai bydd Tomos, Lois a’i rhieni yn coleddu am oes.

Previous
Previous

Dyweddiad Gareth a Laura

Next
Next

Dan a Buddug