Dan a Buddug
Prynhawn hyfryd gyda cwpwl hyfryd. Dim byd ond am gwenu a positifrwydd gan y cwpwl, nathon nhw ddim oedi a neidio yn syth i mewn i’r photoshoot. Roeddent yn hapus i rhoi go ar unrhyw beth, naeth neud gweithio gyda nhw yn bleser!
Mae Dan a Buddug wrthi yn trefnu priodas dramor yn Groeg ar gyfer 2022, am y rheswm yma, roeddwn i ishe rhoi photoshoot dyweddio iddyn nhw ar ei stepen ddrws. Aethom tuag at Bae Rhosili ar gyfer wac yn y prynhawn drwy’r caeau blodau haul a roedd wedi dechre blodeuo yn ddiweddar. Roedd yn lleoliad perffaith yn edrych dros yr Ynys Weryn a’r Môr Celtaidd y tu hwnt.