Tom Rhys Harries

SWNAMI-171.jpg

Ges i’r pleser o saethu portreadau o Tom Rhys Harries (fel y gwelwyd yn rhaglen White Lines ar Netflix) ar gyfer fideo newydd Swnami. Siŵr o fod un o’r dyddiau gorau o ffotograffiaeth fi ‘di cael yn y 12 mis diwethaf!

Roeddwn yn ôl yn y pentref Eidalaidd prydferth Portmeirion ar ddiwrnod hyfryd o Awst, roedd digonedd o olygfeydd anhygoel a chefnlenni bywiog. Cawsom ddiwrnod cyflym, digon o symud o gwmpas. Roedd yn fraint fawr i dynnu lluniau o Tom, gwnaeth Tom feistroli popeth a ofynnwyd iddo wneud, roedd e hyd yn oed wedi mynd i’r môr yn ei siwt heb oedi dim! Ges i luniau unigryw iawn.

Cymerwch gip olwg ar fideo Swnami fan hyn - https://youtu.be/DpLGvc04UZg

Previous
Previous

Dan a Buddug

Next
Next

Swnami