Swnami
Ges i wahoddiad i dynnu lluniau tu ôl i’r lleni o fideo newydd Swnami. Roedd yn brosiect cyffrous iawn gyda briff diddorol iawn. Cafodd y fideo ei rhannu mewn i ddau hanner.
Roedd yr hanner cyntaf wedi’ ffilmio ym mhentref Eidalaidd Portmeirion. Gwnaeth y band leoli ei hun yng nghanol y brif piazza trawiadol, wedi amgylchynu gyda’r adeiladau tal a lliwgar. Roedd y band yn gwisgo siwtiau glas, a oedd yn edrych yn wych yn erbyn y cefndir bywiog.
Ar gyfer yr ail hanner y ffilmio ac ar ôl newid dillad yn gloi, aethom tuag at goedwig gyfagos. Y tro yma gwisgodd y band dillad llai ffurfiol. Nid yn unig oedd y goedwig dywyll ond swynol y gwrthwyneb i’r pentref Eidalaidd, ond roedd y ffordd roedd y band yn cario ei hun y gwrthwyneb hefyd. Roeddent yn mynd amdani gyda’r symudiadau, cyferbyniad o’i symudiadau glân a statig yn ei siwtiau glas.
Ges i amser gwych yn gweithio a sgwrsio gyda’r band yn ystod y dydd.
Cydnabyddiaeth i Sam’s House Film am ffilmio’r fideo. Edrychwch ar ei wefan yma - https://www.samshousefilm.com/